Cawsom gymorth gan Beaufort i roi cynnig ar syniadau creadigol cymhleth gyda grwpiau oed gwahanol. Gwnaethant reoli’r trafodaethau o fewn y grwpiau’n glir, gydag amynedd a’n helpu ni i ddeall ymateb ein cynulleidfa, ac oherwydd hynny, datblygu gwaith creadigol effeithiol.
Jemma Gabb – Pennaeth Earned Media
Golley Slater
Roedd Beaufort Research yn bartner allweddol ar un o brosiectau mwyaf Chwaraeon Cymru – sef yr Arolwg Chwaraeon Ysgol. Yn ystod ein 18 mis o weithio’n agos gyda thîm Beaufort, cawsom ein hysbrydoli gan eu creadigrwydd a’u gallu i ddatrys problemau. Roedd eu dull tuag at gyfathrebu a chydweithredu’n adfywiol, ac roedd eu sylw at fanylion yn wych. Roedd hi wir yn bleser cael cydweithio gyda nhw ar brosiect mor allweddol, mi lwyddodd ein gwaith, i raddfa helaeth ar sail eu profiad a’u harbenigedd.
Steffan Berrow – Arweinydd Ymchwil Defnyddwyr
Chwaraeon Cymru
Cwmni dibynadwy, gwybodus a chefnogol fydd yn eich arwain chi i ganfod data ymchwil craff a dylanwadol.
Caroline Nichols – Ymarferydd Hyrwyddo Iechyd
Tim Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda
Helpodd Beaufort i wneud y broses profi yn llawer fy syml ac yn ddi-straen. Roedd y cyswllt rheolaidd ac ansawdd y cyngor o'r radd flaenaf, ac mae'r adborth y bu i ni ei derbyn yn yr adroddiad terfynol wedi helpu i siapio ein hymgyrch â'r deunyddiau marchnata. Roedd yn fewnwelediad gwerthfawr tu hwnt.
Nicola Roberts – Cyfarwyddwr
Freshwater
Fe weithiodd y prosiect “Panel Pobl” yn dda iawn i S4C, gan i staff Beaufort Research weithio’n galed i’w gael i lwyddo. Fe lwyddodd y cwmni i gadw diddordeb y panelwyr dros gyfnod hir, sydd yn dasg anodd, ac roedd yr holl wybodaeth o ddefnydd mawr i ni. Rydym yn hapus iawn gyda’r gwaith.
Carys Evans – Pennaeth Dadansoddi
S4C
Mae agwedd Beaufort at y gwaith hwn wedi gwneud argraff dda arnaf. Maent wedi buddsoddi amser gwerthfawr yn datblygu dealltwriaeth ddofn o'n busnes. Maent hefyd wedi dangos hyblygrwydd a phragmatiaeth wrth addasu eu hagwedd at waith maes yng ngoleuni'r pandemig. Yn allweddol, ni wnaeth hyn effeithio ar ansawdd ac mae'r canlyniadau cyfoethog yn eu hadroddiad terfynol wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau.
Arthur West – Pennaeth Deall Cwsmeriaid
Y Swyddfa Eiddo Deallusol
Darparodd Beaufort wasanaeth gwych drwy gydol y prosiect. Bu iddynt weithio ag ystod eang o randdeiliaid ar lefel uwch a thrin ein gwaith gyda sensitifrwydd, gallu a phroffesiynoldeb. Roedd yr allbynnau o safon gwych. Darparwyd diweddariadau drwy’r prosiect. Byddwn yn argymell eu defnyddio yn fawr.
Olivia Thomas – Uwch Reolwr Polisi Morol
The Crown Estate
Roedd gan y cyfwelwyr ddiddordeb yn y pwnc roeddynt yn ei ymchwilio ar ein rhan. Roeddynt yn ymrwymo i ddeall natur sensitif hosbisau plant cyn cysylltu â theuluoedd, a oedd yn sicrhau bod eu dull nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd yn dosturiol a charedig.
Clare Robinson – Rheolwr Llywodraethu a Chytundebau
Naomi House & Jacksplace